Archebwch nawr

Cysylltu â Ni

Cysylltu â Ni

Gofal Deintyddol Cwtch, Llawr Daear, Uned 6, Parc Busnes Greenmeadow Springs, Village Way, Caerdydd, CF15 7NE.

Rhif ffôn: 02922 671858
Ebost:  hello@cwtchdental.co.uk 
Facebook: cwtchdentalcare

 

Dod o hyd i ni
Mae Parc Busnes Greenmeadow Springs oddi ar gylchfan yr A470, Coryton.  Cymerwch allanfa Tongwynlais o’r gylchfan a throwch i’r dde yn syth i gyfeiriad y Parc Busnes.  Yna, cymerwch y troad nesaf i’ch chwith a mynd yn syth i lawr i’r gylchfan fach.  Ewch reit o gwmpas y gylchfan a dod yn ôl i'r un cyfeiriad ac rydyn ni ar y chwith (o dan Securitas).  Er mwyn parcio ar y safle, bydd angen i chi yrru heibio i’r adeilad cyn troi i’r chwith a pharcio y tu ôl i’r adeilad yn y mannau parcio ag arwyddion y ddeintyddfa sydd ym mhen uchaf y maes parcio, ar y chwith, dan ein ffenestri ni.

parking map


Parcio
Gan mai ychydig o lefydd parcio sydd ar y safle, efallai y byddai’n well gennych barcio yn Nhongwynlais gerllaw a cherdded draw.  Gellir cerdded yn hwylus o Bant-mawr a’r Eglwys Newydd hefyd, gan ddefnyddio trosffyrdd/tanffyrdd cylchfan Coryton.  Mae gennym le i barcio beics.

 

Cludiant Cyhoeddus
Mae safleoedd bysiau ar y naill ochr a’r llall i’r heol ger y Cardiff International Hotel, tua 400 metr o fynedfa’r safle.  Mae bysiau Stagecoach rhifau 26 (Canol Caerdydd – Yr Eglwys Newydd – Tongwynlais – Nantgarw – Caerffili – Y Coed Duon) a 132 (Bae Caerdydd – Canol Caerdydd – Yr Eglwys Newydd – Tongwynlais – Pontypridd – Maerdy) yn stopio yno’n aml. Mae’r orsaf reilffordd agosaf tuag 1.5 milltir i’r gogledd yn Ffynnon Taf.  Mae gorsaf Ffynnon Taf ar reilffyrdd Merthyr a’r Rhondda.  Mae’r ddwy linell yn rhedeg o Orsaf Caerdydd Canolog, Stryd y Frenhines, Cathays, Llan-daf, Radyr, yna Ffynnon Taf a’r tu hwnt i Gaerdydd.  Mae llwybr bws Stagecoach 132, yn pasio’n agos at Orsaf Ffynnon Taf ac yn mynd ymlaen i’r Cardiff International Hotel, ger Greenmeadow Springs. Mae’r daith hon ar y bws yn cymryd rhyw 10 munud. 

 

Mewn Argyfwng / Gofal Allan o Oriau

Mae argyfyngau deintyddol yn cynnwys:

•    Trawma i’r dannedd
•    Gwaedu na ellir ei reoli yn y geg
•    Poen difrifol mewn dant/dannedd neu yn yr wyneb ac na ellir ei reoli â meddyginiaethau dros-y-cownter
•    Chwydd sy’n tyfu’n gyflym
•    Haint drwg mewn dant/dannedd neu feinwe meddal
 

Os bydd arnoch angen gofal brys ar gyfer unrhyw un o’r eitemau a restrir uchod, ffoniwch y ddeintyddfa ar 02922 671858. Yn ystod oriau’r ddeintyddfa, darperir apwyntiadau brys i gleifion y ddeintyddfa o fewn 48 awr ac, os oes modd, ar yr un diwrnod.

Y tu allan i oriau agor y ddeintyddfa, ffoniwch Linell Gymorth Ddeintyddol Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a’r Fro ar 02920 444 500 i gael cyngor.

 

Boddhad Cleifion
Gobeithio na chewch fyth achos i gwyno am Ofal Deintyddol Cwtch. Os ydych yn anfodlon ag unrhyw agwedd ar eich profiad gyda ni, cysylltwch â Sarah Gatley, perchennog y practis, neu Dennie Mainwaring, nyrs ddeintyddol.  Gallwch lawrlwytho polisi cwynion y ddeintyddfa YMA.

Os na fyddwch yn fodlon â chanlyniad ein trefn gwynion am ryw reswm, gallwch ofyn i’r isod am ragor o gymorth;


Y GIG
Prif Weithredwr,
Pencadlys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro,
Ysbyty Athrofaol Cymru,
Parc y Mynydd Bychan,
Caerdydd
CF14 4XY

Ffôn: 02920 748913
Ebost:  concerns@wales.nhs.uk

Preifat
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru,
Parc Busnes Rhyd-y-car,
Merthyr Tudful,
CF48 1UZ

Ffôn: 0300 062 8163

GDC (rheoleiddiwr deintyddol)
General Dental Council,
37 Wimpole Street,
Llundain,
W1G 8DQ

Ffôn: 020 7167 6000

Dilynwch ni ar Facebook i gael y newyddion diweddaraf am ein gwaith.