Archebwch nawr
« Yn ôl i blog

Beth yw Triniaeth Orthodonteg CFAST i Oedolion?

Allwch chi sythu fy nannedd?

Image

01 Mehefin 2018

CFAST (Cosmetically Focussed Adult Straight Teeth)

Beth yw CFAST?

Triniaeth gosmetig syml a mwyn yw CFAST. Nid yw’n un fewnwthiol iawn ac mae’n cywiro problemau alinio â chwe dant blaen y top a’r gwaelod. Mae’n alinio ac yn lefelu’r dannedd gan ateb anghenion mwyafrif mawr yr oedolion sy’n gofyn am driniaeth orthodontig.

Mae CFAST yn defnyddio bracedi orthodontig clir a gwifrau lliw dannedd. Mae’r dannedd yn symud yn gynt ac mae’n haws rhagweld y symudiad na gyda therapi alinwyr clir. Mae hynny’n golygu ei fod yn ddewis da ar gyfer pobl sy’n dymuno cael dannedd syth mewn llai o amser gan fod y broses yn digwydd mewn 3-6 mis gan amlaf. 

Sut mae’n gweithio?

Mae’r gwifrau titaniwm nicel yn rhoi ychydig o bwysau ar y bracedi sy’n sownd wrth y dannedd. Mae hyn yn gwthio neu’n tynnu’r dant i le sy’n gwneud iddo edrych yn well.

Manteision CFAST

Alinio’r dannedd a’r gyms fel bod y dannedd a’r wên yn edrych yn well yn gyffredinol

Y driniaeth yn cymryd llai o amser na therapi alinwyr clir 

Gellir ei gwneud yn gyflym am ei bod yn trin y chwe dant blaen “cymdeithasol” sy’n effeithio fwyaf ar y wên

Mae’n fwy fforddiadwy na rhai triniaethau orthdontig

Mae bron yn anweladwy

Cyfyngiadau CFAST

Nid yw’n cywiro problemau orthodontig mawr

Mae’n fwy gweladwy na therapi alinwyr clir

Sut fydd CFAST yn edrych?

Mae’r bracedi’n glir ac maent yn dal gwifrau lliw dannedd yn eu lle. Mae’r system yn llai tebygol o staenio na'r bracedi ceramig gwyn a ddefnyddir gan systemau eraill ac felly mae'n haws ei chuddio.