Archebwch nawr
« Yn ôl i blog

Trin yr wyneb

Pa fath o driniaethau atal rhychau allwn i eu cael?

Image

04 Ebrill 2018

Beth yw Botox?

Defnyddir Botox (botulinum toxin) yn aml i drin mân linellau a rhychau. Rhoddir pigiad o brotein wedi’i buro o’r bacteriwm Clostridium Botulinum i’r cnawd. Bu’r driniaeth yn chwyldroi’r diwydiant cosmetig ers yr 1980au. Mae wedi dod yn eithriadol o boblogaidd am fod y canlyniadau’n sydyn ac yn drawiadol a’ch bod yn dod dros y driniaeth yn fuan. Ychydig iawn o risgiau sy’n gysylltiedig â phigiadau Botox ac mae’n driniaeth addas i’r rhan fwyaf o bobl.

Mae llawer o wahanol frandiau o'r tocsin botulinum. Dim ond y brand Botox (Tocsin Botulinum Math A) rydyn ni yn Gofal Deintyddol Cwtch yn ei ddefnyddio. Mae’n fwy diogel ac effeithiol na rhai brandiau eraill.

Sut mae Botox yn gweithio?

Rhoddir y tocsin mewn pigiad ac mae’n ymlacio’r cyhyrau trwy rwystro signalau nerfol a fyddai'n gwneud i'r cyhyrau gyfangu fel rheol. Mae hyn yn gwneud rhychau dynamig yn llai amlwg ac yn helpu i atal rhychau newydd rhag ffurfio.

Bydd effaith Botox yn dechrau ymddangos ymhen 2-3 diwrnod a gwelir y canlyniad terfynol ar ôl pythefnos.

 

Rhannau o’r wyneb sy’n arfer cael eu trin â Botox:

  • Y talcen
  • Llinellau gwgu rhwng yr aeliau
  • Rhychau Traed Brain (ar ochr allanol y llygaid)
     

Manteision triniaeth Botox:

Gwneud llinellau a rhychau ar yr wyneb yn llai amlwg

Atal rhagor o linellau rhag ffurfio trwy ymlacio cyhyrau’r wyneb

Dod dros y driniaeth bron yn syth

Nid yw’n barhaol – bydd yr effaith yn dod i ben yn naturiol ac nid oes angen triniaeth i’w gwrth-droi

Addas i ddynion a menywod

Nid yw’n deimlad annymunol iawn a gellir rhoi’r driniaeth heb anaesthetig lleol

 

Pwy na ddylai gael Botox

  • Pobl sydd â haint yn y man lle bwriedir rhoi’r pigiad.
  • Pobl sydd eisoes wedi cael adwaith alergaidd i bigiadau Tocsin Botulinum math A.
  • Pobl sydd â phroblemau â’r cyhyrau neu glefydau hirdymor sy’n effeithio ar y cyhyrau fel Myasthenia Gravis, syndrom Eaton Lambert.
  • Plant o dan 18 oed.
  • Menywod sy’n feichiog neu’n bwydo ar y fron.
     

Sgil effeithiau Botox:

Ychydig iawn o sgil effeithiau sydd i driniaeth Botox. Weithiau, gwelir ychydig o gleisio yn y man lle rhoddir y pigiad. Yn anaml iawn, gall y botox symud i gyhyrau gerllaw gan achosi peth gwendid, fel peri i un o’r amrannau uchaf ostwng am gyfnod.