Archebwch nawr
« Yn ôl i blog

Triniaethau plicio cemegol a gofal am y croen

Mae ein deintydd, Jenna, wedi ymgymhwyso’n arbenigwraig ardystiedig gyda PCA SKIN a gall gynnig gwahanol driniaethau o fasgiau i blicio cemegol er mwyn cael y gorau o’ch croen.

Image

14 Mehefin 2019

PCA Skin

Cyfle i wella’ch croen heb fynd o dan y gyllell (na’r nodwydd!)

Rydym yn cynnig nifer o ddefnyddiau a thriniaethau gofal croen gan PCA SKIN, cwmni byd-enwog ym maes gofal croen sydd â dros 25 mlynedd o brofiad o ofalu am bob math o groen.

Beth bynnag yw'r broblem â'ch croen – acne/smotiau, pigmentiad, sensitifrwydd, croen sych neu groen yn heneiddio, mae gan PCA SKIN rywbeth i chi.

Hyfforddwyd ein deintydd, Jenna, i fod yn arbenigwr ardystiedig gyda PCA SKIN a gall gynnig gwahanol driniaethau, o serwm a masgiau i bliciadau cemegol arwynebol i’ch helpu i gael y canlyniadau a ddymunwch. Mae gan PCA SKIN lawer o nwyddau y gallwch chi eu defnyddio gartref neu a ddefnyddir fel rhan o driniaeth feddygol ar yr wyneb yn y ddeintyddfa. Beth bynnag yw’ch nod – cywiro neu warchod eich croen – mae gan PCA gynnyrch at y dasg.  

 
Am beth mae PCA yn sefyll?

Physicians Care Alliance. Dim ond gweithwyr meddygol proffesiynol ardystiedig sy’n cael defnyddio cynhyrchion croen PCA a chael eu hyfforddi yn eu triniaeth blicio.

Pwy yw PCA SKIN?

Mae PCA SKIN yn frand uchel ei barch ac yn un o arweinwyr y diwydiant gofal iechyd o ran datblygu triniaethau proffesiynol a nwyddau gofal dyddiol mwyn ond effeithiol iawn. Gwneir yr holl gynnyrch â chynhwysion sy’n digwydd yn naturiol yn y croen a’r corff neu ym myd natur er mwyn sicrhau'r biogydnawsedd mwyaf posibl.

Caiff yr holl gynhyrchion eu creu mewn modd gwyddonol i drin cyflyrau ar y croen fel acne, croen sy’n heneiddio, sensitifrwydd a gorbigmentiad ac ni chaiff y cynhwysion eu profi ar anifeiliaid.

Mae PCA SKIN wedi ymrwymo i warchod yr amgylchedd a gellir ailgylchu’r holl ddeunydd pecynnu.

Caiff yr holl gynnyrch ei brofi’n drwyadl mewn treialon clinigol ac nid ydynt yn cynnwys:

•    Parabenau
•    Lliw synthetig
•    Persawr synthetig
•    Olew mwynol
•    Jeli petroliwm
•    Lanolin
•    Pthalates
 

Pam dewis PCA SKIN?

Ym marn PCA SKIN mae croen iach yn groen hardd! Mae gweithwyr proffesiynol ardystiedig PCA SKIN yn deall nad yw’r un drefn yn addas i bawb ac y gellir addasu gwahanol driniaethau at eich anghenion unigol.

Ar hyn o bryd, defnyddir PCA SKIN gan dros 5,000 o weithwyr meddygol proffesiynol yn UDA ac mewn 70 o wledydd ym mhedwar ban byd.

 

Sut mae cael y canlyniadau gorau?

Rydym yn tanlinellu pwysigrwydd paratoi’r croen i’w drin gennym ni a dal ati â threfn arbennig ar ôl y driniaeth i gadw’r croen yn ddigynnwrf, ac wedi’i hydradu a’i warchod. Mae triniaethau plicio PCA SKIN yn ddull blaengar sy’n rhoi canlyniadau gwych heb drawma nac amser segur trwy faethu’r haenau croen gwaelodol yn hytrach na dim ond plicio’r wyneb.

 

Beth yw triniaeth blicio PCA SKIN?

Mae triniaethau plicio a ddefnyddir gan weithiwr proffesiynol yn cael gwared â chelloedd croen marw ac yn helpu celloedd iachus i godi i'r wyneb. Gyda’r triniaethau hyn, gellir datgelu haenau dyfnach o groen ffres, naturiol. Gall triniaethau misol wastatáu lliw’r croen, clirio acne, gwneud i groen sy’n heneiddio edrych yn well a gloywi croen pŵl.

Mae triniaethau plicio’n ddiogel ar gyfer pob math o groen, a hyfforddwyd gweithwyr proffesiynol ardystiedig PCA i wybod pa gyfuniad o driniaethau sy’n ddiogel i groen gwahanol bobl er mwyn i’r cleifion gael y manteision mwyaf. Mae triniaethau plicio proffesiynol yn dod yn fwyfwy effeithiol gyda gofal cyn ac ar ôl y driniaeth, gan gydbwyso’ch croen cyn y plicio a’i feithrin wedyn.

 

Sut mae trefnu triniaeth?

Ffoniwch y ddeintyddfa ar 02922671858 i drefnu ymgynghoriad.  Gellir cael triniaeth am cyn lleied â £35.